1 Corinthians 9:22 — Compare Translations
7 translations compared side by side
Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
Ir gweiniō yr ymwneuthym yn wan, val yr enillwn y gweinion: i bawp yr ymwneuthum yn bop dimval ygallwn ym‐pop modd gadw’rei.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
Aethum i’r gweiniaid yn wan, fel y gweiniaid yr ennillwn. I bawb yr aethum yn bob peth, fel ymhob modd yr achubwn rai.
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
Deuthum i fod i’r rhai gweiniaid yn wan, fel yr enillwn y gweiniaid. I bawb yr euthum yn bopeth, fel ymhob rhyw fodd y gwaredwn rywrai.
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Ymwneuthum i'r rhai gweiniaid megis yn wan, fel yr enillwn y gweiniaid: mi a ymwneuthum yn bob peth i bawb, fel y gallwn yn hollol gadw rhai.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Dw i'n uniaethu gyda'r rhai sy'n ‛wan‛ er mwyn ennill y gwan. Dw i wedi gwneud fy hun yn bob peth i bawb er mwyn gwneud popeth sy'n bosib i achub pobl.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
I'r gweiniaid, euthum yn wan, er mwyn ennill y gweiniaid. Yr wyf wedi mynd yn bob peth i bawb, er mwyn imi, mewn rhyw fodd neu'i gilydd, achub rhai.
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
I'r gweiniaid mi a fum yn wan, fel yr ennillwn y gweiniaid. I bawb yr wyf wedi bod yn bob peth, fel ym mhob modd yr achubwn rai.