1 Corinthians 9:23 — Compare Translations
7 translations compared side by side
Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
A’ hyn wyf yn ei wneuthur er mwyn yr Euangel, val y bwyf yn gyfranoc o hanei gyd a chvvi. Yr Epistol ar y Sul Septuagesima
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
A phob peth yr wyf yn ei wneud er mwyn yr Efengyl, fel y byddwyf yn gydgyfrannog o honi.
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
Popeth a wnâi er mwyn yr efengyl, fel y gallwyf fod yn gyfrannog ohoni.
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
A hyn yr wyf fi yn ei wneuthur er mwyn yr efengyl, fel y'm gwneler yn gyd‐gyfrannog ohoni.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Dw i'n gwneud hyn i gyd er mwyn y newyddion da ei hun, ac i minnau gael rhannu o'i fendithion.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Dros yr Efengyl yr wyf yn gwneud pob peth, er mwyn i mi gael cydgyfranogi ynddi.
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
Ac yr wyf yn gwneuthur pob peth er mwyn yr efengyl, fel y byddwyf yn gyd‐gyfrannog o honi.