1 Corinthians 9:24 — Compare Translations
7 translations compared side by side
Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
Any wyddoch, am yr ei a vo yn rhedec mevvn gyrfa, vot pawp yn rhedec, er hyny bot vn yn mynet a’r gamp? velly rhedwc h nes cael gavael.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
Oni wyddoch fod y rhai sy’n rhedeg mewn rhedfa i gyd yn rhedeg, ond un sy’n derbyn y gwobr?
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
Oni wyddoch fod y rhai a redo mewn rhedegfa yn rhedeg, yn wir, bawb ohonynt, eithr un sy’n derbyn y wobr? Felly rhedwch fel y caffoch y blaen.
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Oni wyddoch chwi fod y rhai sydd yn rhedeg mewn gyrfa, i gyd yn rhedeg, ond bod un yn derbyn y gamp? Felly rhedwch, fel y caffoch afael.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Mae'r rhai sy'n rhedeg ras mewn gemau athletaidd i gyd yn cystadlu, ond dim ond un sy'n ennill y wobr. Dyna sut dylech chi redeg — fel rhai sy'n benderfynol o ennill.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Oni wyddoch am y rhai sy'n rhedeg mewn ras, eu bod i gyd yn rhedeg, ond mai un sy'n derbyn y wobr? Felly, rhedwch i ennill.
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
Oni wyddoch am y rhai sydd yn rhedeg yn y rhedeg‐le, eu bod oll yn rhedeg, ond un sydd yn derbyn y wobr? Rhedwch yn y fath fodd, fel y cymmerwch afael ynddi.