1 Corinthians 9:25 — Compare Translations
7 translations compared side by side
Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
A’ phop d vn a ymdrechoam‐gamp, a ymgymedr ola rrac pop dim: ac wy a vvnant hynn er mwyn cael coron ðarvodedic: a’ ni neu er vn an d arvodetic.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
Felly rhedwch, er mwyn derbyn o honoch. A phob un y sy’n ymdrechu yn y campau, ymhob peth y mae’n gymmedrol; hwynt-hwy yn wir fel y bo coron lygradwy i’w chael ganddynt; ond nyni, un anllygradwy.
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
Y mae pob un sy’n cystadlu yn arfer hunanlywodraeth ymhob dim, hwynt-hwy, yn wir, fel y derbyniont goron lygradwy, eithr nyni, un anllygradwy.
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Ac y mae pob un a'r sydd yn ymdrechu, yn ymgadw ym mhob peth: a hwynt‐hwy yn wir, fel y derbyniont goron lygredig; eithr nyni, un anllygredig.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
I gystadlu yn y Gemau mae'n rhaid i athletwyr hyfforddi'n galed. Maen nhw'n gwneud hynny i ennill coron fydd ond yn para dros dro. Ond dŷn ni'n ymdrechu am goron fydd yn para am byth!
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Y mae pob mabolgampwr yn arfer hunanreolaeth ym mhopeth; y maent hwy, yn wir, yn gwneud hynny er mwyn ennill torch lygradwy, ond y mae i ni un sy'n anllygradwy.
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
A phob un sydd yn ymdrechu am dani, ym mhob peth y mae yn ymarfer hunan‐reolaeth: hwynthwy yn wir fel y derbyniont goron lygradwy; eithr nyni, un anllygradwy.