1 Corinthians 9:27 — Compare Translations

7 translations compared side by side

Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
Eithr ydd wy v i yn goarsengi vy‐corph ac yn y ddarestwng: rac mewn vn modd gwedy ym precethu i eraill, vy‐bot vy h un an yn ancymeradwy.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
felly yr ymbaffiaf, fel nid yn curo’r awyr; eithr du-gleisio fy nghorph yr wyf, ac yn ei ddwyn yn gaeth, rhag mewn modd yn y byd, ar ol pregethu i eraill, i mi fy hun fod yn anghymmeradwy.
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
Ond yr wyf yn baeddu fy nghorff fy hun, ac yn ei gaethiwo, rhag, ysgatfydd, wedi i mi gyhoeddi i eraill, fy mod fy hun yn wrthodedig.
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Ond yr wyf fi yn cosbi fy nghorff, ac yn ei ddwyn yn gaeth; rhag i mi mewn un modd, wedi i mi bregethu i eraill, fod fy hun yn anghymeradwy.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Na, dw i'n gwthio fy hun i'r eithaf ac yn ennill rheolaeth lwyr — rhag i mi, ar ôl cyhoeddi'r neges i bobl eraill, gael fy ngwahardd rhag ennill y wobr fy hun!
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Yr wyf yn cernodio fy nghorff, ac yn ei gaethiwo, rhag i mi, sydd wedi pregethu i eraill, fy nghael fy hun yn wrthodedig.
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
Eithr yr wyf yn cleisio fy nghorph ac yn ei ddwyn i gaethiwed, rhag mewn un modd, wedi i mi bregethu i eraill, fod fy hun yn annghymmeradwy.