1 Corinthians 9:7 — Compare Translations

7 translations compared side by side

Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
Pwy a i ryfely vn amser ar ei ’osymddaith i hun? Pwy a blann winllan, ac eb vwyta oi ffrwyth? neu pwy a borth dda, ac ny vwyty o laeth y da?
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
Pwy sy’n milwrio un amser ar ei draul ei hun? Pwy sy’n plannu gwinllan, ac ei ffrwyth hi na fwytty? Neu pwy sy’n porthi praidd, ac o laeth y praidd na fwytty?
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
Pwy fyth fydd yn rhyfela ar ei draul ei hun? Pwy fydd yn plannu gwinllan ac ni bydd yn bwyta o’i ffrwyth hi? Neu bwy fydd yn bugeilio praidd ac na bydd yn bwyta o laeth y praidd hwnnw?
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Pwy sydd un amser yn rhyfela ar ei draul ei hun? pwy sydd yn plannu gwinllan, ac nid yw yn bwyta o'i ffrwyth hi? neu pwy sydd yn porthi praidd, ac nid yw yn bwyta o laeth y praidd?
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Ydy milwr yn y fyddin yn gorfod talu ei gostau ei hun? Ydy rhywun yn plannu gwinllan a byth yn cael bwyta'r grawnwin? Neu'n gofalu am braidd a byth yn cael yfed y llaeth?
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Pwy fyddai byth yn rhoi gwasanaeth milwr ar ei draul ei hun? Pwy sy'n plannu gwinllan heb fwyta o'r ffrwyth? Pwy sy'n bugeilio praidd heb yfed o'r llaeth?
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
Pwy sydd yn milwrio un amser ar ei draul ei hun? Pwy sydd yn plannu gwinllan, ac nid yw yn bwytta ei ffrwyth hi? Pwy sydd yn bugeilio praidd, ac nid yw yn bwytta o laeth y praidd?