1 John 1:2 — Compare Translations
7 translations compared side by side
Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
(Can ys y bywyt a ymddangosodd, ac ei gwelsam, ac ydd ym yn testio, ac yn dangos ychwy y bywyt tragyvythawl, yr hwn oedd y gyd a’r Tat ac a ymddangosawdd y ni)
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
(ac y bywyd a amlygwyd, a gwelsom, a thystiolaethu yr ydym ac yn mynegi i chwi y bywyd tragywyddol, yr Hwn oedd gyda’r Tad ac a amlygwyd i ni;)
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
ac amlygwyd y bywyd, ac yr ydym wedi gweled ac yn tystio ac yn cyhoeddi i chwi y bywyd tragwyddol, a oedd gyda’r Tad ac a amlygwyd i ni, —
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
(Canys y bywyd a eglurhawyd, ac ni a welsom, ac ydym yn tystiolaethu, ac yn mynegi i chwi'r bywyd tragwyddol, yr hwn oedd gyda'r Tad, ac a eglurhawyd i ni;)
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Daeth y bywyd ei hun i'r golwg, a dŷn ni wedi ei weld e. Gallwn dystio iddo, a dyma dŷn ni'n ei gyhoeddi i chi — y bywyd tragwyddol oedd gyda'r Tad ac sydd wedi dangos ei hun i ni.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Amlygwyd y bywyd hwn; ac yr ydym wedi gweld, ac yr ydym yn tystiolaethu ac yn cyhoeddi i chwi y bywyd tragwyddol a oedd gyda'r Tad ac a amlygwyd i ni.
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
(A'r Bywyd a amlygwyd, ac ni a welsom, ac ydym yn tystiolaethu ac yn mynegi i chwi y Bywyd tragwyddol, yr hwn oedd gyda'r Tâd ac a amlygwyd i ni):