1 John 1:3 — Compare Translations

7 translations compared side by side

Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
Yr hyn, meddaf, y welsam, ac a glywsam, a ddeclarwn ychwi, val y bo y chwi the hefyt gymdeithas gyd a ni, ac val y bo ein cymdeithas ni hefyt y gyd or Tat ai Vap Iesu Christ.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
yr hyn a welsom ac a glywsom yr ydym yn ei fynegi hefyd i chwi, fel y byddoch chwi hefyd a chennych gymdeithas gyda ni; ac ein cymdeithas ni, gyda’r Tad a chyda’i Fab Ef Iesu Grist y mae.
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
yr hyn yr ydym wedi ei weled a’i glywed yr ydym yn ei gyhoeddi i chwithau hefyd, er mwyn i chwithau gael cymundeb gyda ni; ac yn wir ein cymundeb ni, gyda’r Tad a chyda’i Fab Iesu Grist y mae.
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Yr hyn a welsom ac a glywsom yr ydym yn ei fynegi i chwi, fel y caffoch chwithau hefyd gymdeithas gyda ni: a'n cymdeithas ni yn wir sydd gyda'r Tad, a chyda'i Fab ef Iesu Grist.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Ydyn, dŷn ni'n sôn am rywbeth dŷn ni wedi ei weld a'i glywed. Dŷn ni eisiau i chithau brofi'r wefr gyda ni o rannu yn y berthynas yma gyda Duw y Tad, a gyda'i Fab, Iesu y Meseia.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Yr hyn yr ydym wedi ei weld a'i glywed, yr ydym yn ei gyhoeddi i chwi hefyd, er mwyn i chwithau gael cymundeb ni. Ac yn wir, y mae ein cymundeb ni gyda'r Tad a chyda'i Fab ef, Iesu Grist.
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
yr hyn a welsom ac a glywsom yr ydym hefyd yn ei fynegi i chwi, fel y caffoch chwithau hefyd gymdeithas gyda ni; ië, a'n cymdeithas ni sydd gyda'r Tâd a chyda'i Fab ef, Iesu Grist.