1 John 1:5 — Compare Translations

7 translations compared side by side

Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
Hyn yw’r genadwri a glywsam canthaw ef, ac ydd ym yn y ddeclaro y chwi, may golauni yw Duw ac nad oes ynthaw ddim tywyllw ch.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
A hon yw’r genadwri a glywsom ganddo Ef, ac yr ydym yn ei mynegi i chwi, sef, Duw, goleuni yw, a thywyllwch Ynddo Ef nid oes mo’no.
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
A hon yw’r genadwri yr ydym wedi ei chlywed ganddo Ef ac yr ydym yn ei chyhoeddi i chwithau, mai goleuni yw Duw, a thywyllwch nid oes ynddo ddim.
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
A hon yw'r genadwri a glywsom ganddo ef, ac yr ydym yn ei hadrodd i chwi; Mai goleuni yw Duw, ac nad oes ynddo ddim tywyllwch.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Dyma'r neges mae e wedi ei rhoi i ni, a dyma ni nawr yn ei rhannu gyda chi: Golau ydy Duw; does dim tywyllwch o gwbl ynddo.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Hon yw'r genadwri yr ydym wedi ei chlywed ganddo ef, ac yr ydym yn ei chyhoeddi i chwi: goleuni yw Duw, ac nid oes ynddo ef ddim tywyllwch.
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
A hon ydyw y genadwri a glywsom ganddo ef, ac yr ydym yn ei dadgan i chwi: Duw, Goleuni ydyw, ac nid oes ynddo ddim tywyllwch.