1 John 1:6 — Compare Translations
7 translations compared side by side
Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
A’s dywedwn vot y ni gymdeithas ac ef, a rrodio yn y tywyllw ch, celwyddoc yym, ac nyd yd ym ar y gwir.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
Os dywedwn fod cymdeithas genym ag Ef, ac yn y tywyllwch y rhodiwn, celwyddu yr ydym, ac nid ydym yn gwneuthur y gwirionedd;
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
Os dywedwn fod gennym gymundeb gydag Ef a rhodio yn y tywyllwch, yr ydym yn dywedyd celwydd ac nid ydym yn gwneuthur y gwir.
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Os dywedwn fod i ni gymdeithas ag ef, a rhodio yn y tywyllwch, celwyddog ydym, ac nid ydym yn gwneuthur y gwirionedd:
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Felly, os ydyn ni'n honni fod gynnon ni berthynas gyda Duw ac eto'n dal i fyw fel petaen ni yn y tywyllwch, mae'n amlwg ein bod ni'n dweud celwydd. Dŷn ni ddim yn byw yn ffyddlon i'r gwir.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Os dywedwn fod gennym gymundeb ag ef, a rhodio yn y tywyllwch, yr ydym yn dweud celwydd, ac nid ydym yn gwneud y gwirionedd;
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
Os dywedwn fod i ni gymdeithas âg ef, a rhodio yn y tywyllwch, celwyddog ydym, ac nid ydym yn gwneuthur y gwirionedd.