1 John 1:7 — Compare Translations

7 translations compared side by side

Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
Eithyr as rrodiwn yn y golunni, megis y mae ef yn y golauni, y mae y ni gymdeithas au gylydd, a’ gwaet Iesu Christ ys ydd in carthu ywrth pop pechot.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
ond os yn y goleuni y rhodiwn, fel y mae Efe yn y goleuni, cymdeithas sydd genym â’n gilydd, a gwaed Iesu, Ei Fab Ef, sydd yn ein glanhau oddiwrth bob pechod.
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
Ond os ydym yn rhodio yn y goleuni, fel y mae Ef yn y goleuni, y mae gennym gymundeb gyda’n gilydd, ac y mae gwaed Iesu Ei Fab Ef yn ein glanhau ni o bob pechod.
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Eithr os rhodiwn yn y goleuni, megis y mae efe yn y goleuni, y mae i ni gymdeithas â'n gilydd, a gwaed Iesu Grist ei Fab ef, sydd yn ein glanhau ni oddi wrth bob pechod.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Ond os ydyn ni'n byw yn y golau, fel mae Duw yn y golau, dŷn ni'n perthyn i'n gilydd, ac mae gwaed Iesu ei Fab yn ein glanhau ni o bob pechod.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
ond os rhodiwn yn y goleuni, fel y mae ef yn y goleuni, y mae gennym gymundeb 'n gilydd, ac y mae gwaed Iesu, ei Fab ef, yn ein glanhau ni o bob pechod.
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
Eithr os rhodiwn yn y goleuni, megys y mae efe yn y goleuni y mae i ni gymdeithas â'n gilydd, a gwaed Iesu ei Fab ef sydd yn ein glanhâu ni oddiwrth bob pechod.