1 John 1:9 — Compare Translations
7 translations compared side by side
Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
A’s coffesswm ein pechotae, ffyddlon yw ef a’ chyfiawn, val y maddeuo y ni ein pechoteu, a’n carthu ywrth oll enwiredd.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
Os cyfaddefwn ein pechodau, ffyddlawn yw Efe a chyfiawn, i faddeu i ni ein pechodau a’n glanhau oddiwrth bob anghyfiawnder.
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
Os addefwn ein pechodau, ffyddlon yw Ef a chyfiawn i faddau i ni ein pechodau a’n glanhau o bob anghyfiawnder.
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Os cyfaddefwn ein pechodau, ffyddlon yw efe a chyfiawn, fel y maddeuo i ni ein pechodau, ac y'n glanhao oddi wrth bob anghyfiawnder.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Ond os gwnawn ni gyffesu ein pechodau, bydd e'n maddau i ni am ein pechodau ac yn ein glanhau ni oddi wrth bopeth drwg, am ei fod e'n cadw ei air ac yn gwneud beth sy'n iawn.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Os cyffeswn ein pechodau, y mae ef yn ffyddlon ac yn gyfiawn, ac felly fe faddeua inni ein pechodau, a'n glanhau o bob anghyfiawnder.
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
Os cyfaddefwn ein pechodau, ffyddlawn yw efe a chyfiawn, i faddeu i ni ein pechodau, ac i'n glanhâu oddiwrth bob anghyfiawnder.