1 John 2:1 — Compare Translations

7 translations compared side by side

Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
VY meibion‐bychain, y pethu hyn yð wyf yn y scryvenu atoch, val na phechoch: ac a phecha nep, y may y ni ymðiddanwr y gyd a’r Tat, Iesu Christ y cyfiawn.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
Fy mhlant bychain, y pethau hyn yr wyf yn eu hysgrifenu, fel na phechoch: ac os bydd i neb bechu, Eiriolwr sydd genym gyda’r Tad, Iesu Grist y Cyfiawn;
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
Fy mhlant bach, yr wyf yn ysgrifennu hyn atoch fel na phechoch. Ac os pecha neb, y mae gennym ddadleuydd gyda’r Tad, Iesu Grist, un cyfiawn.
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Fy mhlant bychain, y pethau hyn yr wyf yn eu hysgrifennu atoch, fel na phechoch. Ac o phecha neb, y mae i ni Eiriolwr gyda'r Tad, Iesu Grist y Cyfiawn:
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Fy mhlant annwyl, dw i'n ysgrifennu hyn atoch chi er mwyn eich helpu chi i beidio pechu. Ond os bydd rhywun yn pechu, mae gynnon ni un gyda'r Tad sy'n pledio ar ein rhan ni, sef Iesu Grist, sy'n berffaith gyfiawn a da.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Fy mhlant, yr wyf yn ysgrifennu'r pethau hyn atoch i'ch cadw rhag pechu. Ond os bydd i rywun bechu, y mae gennym Eiriolwr gyda'r Tad, sef Iesu Grist, y cyfiawn;
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
Fy mhlant bychain, y pethau hyn yr wyf yn eu hysgrifennu atoch, fel na phechoch. Ac os pecha neb, y mae gennym Ddadleuydd gyda'r Tâd, Iesu Grist y Cyfiawn.