1 John 2:13 — Compare Translations
7 translations compared side by side
Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
Scrivennu ydd wyf atoch, dadeu, can y chwi adnabot yr hwn ys ydd or dechreu at. Scrivennu ydd wyf ato‐chwi, wyr‐ievainc, can ddarvot y chwi orchvygu y Vall.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
Ysgrifenu yr wyf attoch chwi, dadau, oblegid adnabod o honoch yr Hwn sydd o’r dechreuad. Ysgrifenu yr wyf attoch chwi, wŷr ieuaingc, oblegid gorchfygu o honoch yr un drwg. Ysgrifenais attoch chwi, blant bychain, oblegid adnabod o honoch y Tad.
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
Yr wyf yn ysgrifennu atoch chwi, dadau, am eich bod yn adnabod yr Hwn sydd o’r dechrau. Yr wyf yn ysgrifennu atoch chwi, rai ieuainc, am eich bod wedi gorchfygu’r un drwg. Ysgrifennais atoch chwi, blant, am eich bod yn adnabod y Tad.
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Ysgrifennu yr wyf atoch chwi, dadau, am adnabod ohonoch yr hwn sydd o'r dechreuad. Ysgrifennu yr wyf atoch chwi, wŷr ieuainc, am orchfygu ohonoch yr un drwg. Ysgrifennu yr wyf atoch chwi, rai bychain, am i chwi adnabod y Tad.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Dw i'n ysgrifennu atoch chi'r rhai hŷn, am eich bod chi wedi dod i nabod yr Un sy'n bodoli o'r dechrau cyntaf. Dw i'n ysgrifennu atoch chi sy'n ifanc am eich bod chi wedi ennill y frwydr yn erbyn yr Un drwg. Dw i wedi ysgrifennu atoch chi blant, am eich bod chi wedi dod i nabod y Tad.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Rwyf yn ysgrifennu atoch chwi, dadau, am eich bod yn adnabod yr hwn sydd wedi bod o'r dechreuad. Rwyf yn ysgrifennu atoch chwi, wu375?r ifainc, am eich bod wedi gorchfygu'r Un drwg. Rwyf wedi ysgrifennu atoch chwi, blant, am eich bod yn adnabod y Tad.
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
Ysgrifennu yr wyf atoch chwi, dadau, oblegyd adnabod o honoch yr hwn sydd o'r dechreuad. Ysgrifennu yr wyf atoch chwi, wŷr ieuainc, oblegyd gorchfygu o honoch yr Un Drwg.