1 John 2:14 — Compare Translations
7 translations compared side by side
Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
Scrivenny ydd wyf ato‐chwi, yr ei bychain, can y chwi adnabot y Tat. Scrivennais atoch, dateu, can y chwi adnabot yr hwn ys ydd o’r dechreu at. Scrivenais atochwi, wyr‐ieuainc, can eich bot yn gedyrn, a’ gair Duw ys ydd yn aros ynoch’, a’ gorchvygesoch y Vall.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
Ysgrifenais attoch chwi, dadau, oblegid adnabod o honoch yr Hwn sydd o’r dechreuad. Ysgrifenais attoch chwi, wŷr ieuaingc, gan mai cryfion ydych, a Gair Duw yn aros ynoch, ac y gorchfygasoch yr un drwg.
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
Ysgrifennais atoch, dadau, am eich bod yn adnabod yr Hwn sydd o’r dechrau. Ysgrifennais atoch, rai ieuainc, am eich bod yn gryfion a bod gair Duw yn aros ynoch a’ch bod wedi gorchfygu’r un drwg.
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Ysgrifennais atoch chwi, dadau, am adnabod ohonoch yr hwn sydd o'r dechreuad. Ysgrifennais atoch chwi, wŷr ieuainc, am eich bod yn gryfion, a bod gair Duw yn aros ynoch, a gorchfygu ohonoch yr un drwg.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Dw i wedi ysgrifennu atoch chi rai hŷn, am eich bod chi wedi dod i nabod yr un sy'n bodoli o'r dechrau cyntaf. Dw i wedi ysgrifennu atoch chi'r rhai ifanc am eich bod chi'n gryf, am fod neges Duw wedi dod i fyw o'ch mewn chi, ac am eich bod chi wedi ennill y frwydr yn erbyn yr un drwg.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Rwyf wedi ysgrifennu atoch chwi, dadau, am eich bod yn adnabod yr hwn sydd wedi bod o'r dechreuad. Rwyf wedi ysgrifennu atoch chwi, wu375?r ifainc, am eich bod yn gryf, ac am fod gair Duw yn aros ynoch, a'ch bod wedi gorchfygu'r Un drwg.
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
Ysgrifennais atoch, rai bychain, oblegyd adnabod o honoch y Tâd. Ysgrifennais atoch chwi, dadau, oblegyd adnabod o honoch yr hwn sydd o'r dechreuad. Ysgrifennais atoch chwi, wŷr ieuainc, oblegyd eich bod yn gryfion, a bod Gair Duw yn aros ynoch, a'ch bod wedi gorchfygu yr Un Drwg.