1 John 2:17 — Compare Translations
7 translations compared side by side
Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
A’r byt ys ydd yn mynet heibio, ay chwant ef: a’ hwn a wna wyllys Duw a erys yn dragyvyth.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
a’r byd sy’n myned heibio, ac ei chwant; ond yr hwn sy’n gwneuthur ewyllys Duw, aros y mae yn dragywydd.
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
Ac y mae’r byd yn myned heibio a’i chwant ef. Ond yr hwn sydd yn gwneuthur ewyllys Duw, y mae ef yn aros yn dragywydd.
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
A'r byd sydd yn myned heibio, a'i chwant hefyd: ond yr hwn sydd yn gwneuthur ewyllys Duw, sydd yn aros yn dragywydd.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Mae'r byd hwn a'i chwantau yn dod i ben, ond mae'r sawl sy'n gwneud beth mae Duw eisiau yn byw am byth.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Y mae'r byd a'i drachwant yn mynd heibio, ond y mae'r sawl sy'n gwneud ewyllys Duw yn aros am byth.
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
A'r byd sydd yn myned heibio, a'i chwant, ond yr hwn sydd yn gwneuthur ewyllys Duw sydd yn aros yn dragywydd.