1 John 2:18 — Compare Translations
7 translations compared side by side
Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
Ha‐ blant‐bychain, yr amser dywethaf ydiw hi, a’ megis y clywsoch y delei yr Antichrist, ac yr owrhon y mae Antichristieu lawer: wrth yr hyn y gwyddom mae’r amser dywethaf ydyw hi.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
Plant bychain, y ddiweddaf awr yw; ac fel y clywsoch fod Antigrist yn dyfod, hyd yn oed yn awr, Antigristiau lawer a wnaethpwyd; oddiwrth yr hyn y gwyddom mai’r ddiweddaf awr yw.
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
Blant bach, dyma’r awr ddiwethaf, ac fel y clywsoch fod yr Anghrist yn dyfod, yn awr dyma anghristiau lawer; wrth hyn y gwyddom mai’r awr ddiwethaf ydyw.
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
O blant bychain, yr awr ddiwethaf ydyw: ac megis y clywsoch y daw anghrist, yr awron hefyd y mae anghristiau lawer; wrth yr hyn y gwyddom mai'r awr ddiwethaf ydyw.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Blant annwyl, mae'r awr olaf wedi dod. Dych chi wedi clywed fod gelyn y Meseia i ddod, ac mae llawer sy'n elynion i'r Meseia eisoes wedi dod. Dyna sut dŷn ni'n gwybod fod yr awr olaf wedi dod.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Blant, dyma'r awr olaf, ac fel y clywsoch fod yr Anghrist yn dod, yn awr dyma anghristiau lawer wedi dod; wrth hyn yr ydym yn gwybod mai dyma'r awr olaf.
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
Rai bychain, yr Awr ddiweddaf ydyw; ac fel y clywsoch fod Anghrist yn dyfod, hyd yn nod yn awr mae Anghristiau lawer wedi cyfodi, oddiwrth yr hyn y gwyddom mai yr Awr ddiweddaf ydyw.