1 John 2:24 — Compare Translations

7 translations compared side by side

Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
Aro s et gan hynny yno‐chwi yr hyn a glywsoch or dechreu at. A’s erys ynoch yr hyn a glywsoch o’r dechreu at, chwi the hefyt a aro s wch yn y Map, ac yn y Tat.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
Chwychwi, yr hyn a glywsoch o’r dechreuad, ynoch arhosed. Os ynoch yr erys yr hyn a glywsoch o’r dechreuad, chwychwi hefyd yn y Mab ac yn y Tad a arhoswch.
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
Chwithau, yr hyn a glywsoch o’r dechrau, arhosed ynoch. Os ynoch yr erys yr hyn a glywsoch o’r dechrau, byddwch chwithau yn aros hefyd yn y Tad a’r Mab.
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Arhosed gan hynny ynoch chwi yr hyn a glywsoch o'r dechreuad. Od erys ynoch yr hyn a glywsoch o'r dechreuad chwithau hefyd a gewch aros yn y Mab ac yn y Tad.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Gwnewch yn siŵr eich bod chi'n dal i lynu wrth beth dych chi wedi ei glywed o'r dechrau cyntaf. Wedyn, bydd eich perthynas chi gyda'r Mab a'r Tad yn sicr.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Chwithau, bydded i'r hyn a glywsoch o'r dechrau aros ynoch. Os bydd yr hyn a glywsoch o'r dechrau yn aros ynoch, byddwch chwithau hefyd yn aros yn y Mab ac yn y Tad.
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
Chwychwi, yr hyn a glywsoch o'r dechreuad, arhosed ynoch; os ynoch yr erys yr hyn a glywsoch o'r dechreuad, chwithau hefyd a gewch aros yn y Mab ac yn y Tâd.