1 John 2:27 — Compare Translations

7 translations compared side by side

Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
Eithyr yr enneint a dd erbynies o ch y cantho ef, ys y yn aros ynoch: ac nyd rait ychwi vot nep ich dyscu: eithr mal ich dysco yr Enneint hwnw am bop peth, ac y mae yn gywir, ac nyd yw yn gelwyddawc, ac megis ich dyscawdd, yr aro s wch ynthaw.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
A chwychwi yr enneiniad a dderbyniasoch Ganddo Ef, aros y mae ynoch, ac nid oes genych raid wrth ddysgu o neb chwi: eithr fel y mae Ei enneiniad Ef yn eich dysgu am bob peth, a gwir yw, ac nid yw gelwydd; ac fel y dysgodd chwi, arhoswch Ynddo Ef.
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
A chwithau, y mae’r eneiniad a gawsoch ganddo Ef yn aros ynoch, ac nid oes angen arnoch i neb eich dysgu chwi, ond fel y mae Ei eneiniad Ef yn eich dysgu am bopeth, a gwir yw ac nid yw’n gelwydd, ac fel y dysgodd chwi, arhoswch ynddo.
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Ond y mae'r eneiniad a dderbyniasoch ganddo ef, yn aros ynoch chwi, ac nid oes arnoch eisiau dysgu o neb chwi; eithr fel y mae'r un eneiniad yn eich dysgu chwi am bob peth, a gwir yw, ac nid yw gelwydd; ac megis y'ch dysgodd chwi, yr arhoswch ynddo.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Ond gan eich bod chi wedi cael eich eneinio — ac mae'r Ysbryd a'ch eneiniodd chi yn aros ynoch chi — does dim angen i neb eich dysgu chi. Mae'r Ysbryd yn dysgu popeth i chi. Mae ei eneiniad yn real. Does dim byd ffug ynglŷn â'r peth! Felly gwnewch beth mae'n ei ddweud — glynwch wrth Iesu.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
A chwithau, y mae'r eneiniad a gawsoch ganddo ef yn aros ynoch, ac nid oes arnoch angen neb i'ch dysgu; ond y mae'r eneiniad a roddodd ef yn eich dysgu am bopeth, a gwir yw, nid celwydd. Fel y dysgodd ef chwi, arhoswch ynddo ef.
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
A chwychwi, y mae yr eneiniad a dderbyniasoch ganddo ef yn aros ynoch chwi, ac nid oes arnoch angen i neb eich dysgu, eithr fel y mae ei eneiniad ef yn eich dysgu chwi ynghylch pob peth — ac y mae yn wir ac nid yw gelwydd — ac megys y dysgodd efe chwi, arhoswch ynddo ef.