1 John 2:28 — Compare Translations

7 translations compared side by side

Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
Ac yr owrhon blant‐bychain, aro s wch ynthaw, mal pan yr ymddangoso ef, y bo hyder genym, ac na chywilyddiom ger y vron ef yn ei ddyvodiat.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
Ac, yn awr, blant bychain, arhoswch Ynddo Ef; fel, os amlygir Ef, y bo genym hyder, ac na chywilyddier ni ger Ei fron yn Ei ddyfodiad.
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
Ac yn awr, blant bach, arhoswch ynddo er mwyn bod hyder gennym pan ymddangoso ac na chywilyddiom rhagddo Ef yn Ei ddyfodiad.
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Ac yr awron, blant bychain, arhoswch ynddo; fel, pan ymddangoso efe, y byddo hyder gennym, ac na chywilyddiom ger ei fron ef yn ei ddyfodiad.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Felly, blant annwyl, glynwch wrth Iesu. Wedyn, pan ddaw yn ôl i'r golwg gallwn fod yn gwbl hyderus, a heb ddim cywilydd.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Ac yn awr, blant, arhoswch ynddo ef, er mwyn inni, pan fydd ef yn ymddangos, gael hyder a bod heb gywilydd arnom ger ei fron ef ar ei ddyfodiad.
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
Ac yn awr, blant bychain, arhoswch ynddo Ef, fel, os amlygir ef, y byddo gennym hyfder, ac na chiliom mewn cywilydd oddiwrtho yn ei Ddyfodiad.