1 John 2:29 — Compare Translations
7 translations compared side by side
Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
A’s gwyddoch y vot ef yn gyfiawn, gwybyddwch may pwy pynac a wna gyfiawnder y anet o honaw ef.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
Os gwyddoch mai cyfiawn yw Efe, gwyddoch fod pob un hefyd y sy’n gwneuthur cyfiawnder, mai o Hono Ef y’i cenhedlwyd.
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
Os gwyddoch Ei fod yn gyfiawn, gwybyddwch fod pob un hefyd sy’n gwneuthur cyfiawnder yn hanfod ohono Ef.
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Os gwyddoch ei fod ef yn gyfiawn, chwi a wyddoch fod pob un a'r sydd yn gwneuthur cyfiawnder, wedi ei eni ohono ef.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Dych chi'n gwybod ei fod e'n hollol gyfiawn, felly dylech wybod hefyd fod pawb sy'n gwneud beth sy'n iawn yn blant iddo.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Os gwyddoch ei fod ef yn gyfiawn, yna fe ddylech wybod bod pob un sy'n gwneud cyfiawnder wedi ei eni ohono ef.
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
Os gwyddoch ei fod ef yn gyfiawn, gwyddoch fod pob un hefyd sydd yn gwneuthur cyfiawnder wedi ei genhedlu o hono ef.