1 John 2:4 — Compare Translations
7 translations compared side by side
Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
Yr hwn a ddywait, Mi adwen ef, ac ny chaidw ei ’orchmyneu, celwyddawc yw, a’r gwirionedd nyd yw ynthaw.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
Yr hwn sy’n dywedyd, Adwaen Ef, a’i orchymynion na cheidw, celwyddwr yw, ac ynddo y gwirionedd nid ydyw;
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
Y mae’r hwn sydd yn dywedyd “yr wyf yn Ei adnabod,” ac yntau heb fod yn cadw Ei orchmynion, yn gelwyddog, ac nid yw’r gwir ynddo ef.
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Yr hwn sydd yn dywedyd, Mi a'i hadwaen ef, ac heb gadw ei orchmynion ef, celwyddog yw, a'r gwirionedd nid yw ynddo.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Mae'r bobl hynny sy'n dweud, “Dw i'n ei nabod e,” ond ddim yn gwneud beth mae e'n ei ddweud yn dweud celwydd, a dŷn nhw ddim yn ffyddlon i'r gwir.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Y sawl sy'n dweud, "Rwyf yn ei adnabod", a heb gadw ei orchmynion, y mae'n gelwyddog, ac nid yw'r gwirionedd ynddo;
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
Yr hwn sydd yn dywedyd, Mi a'i hadwaen ef, ac heb gadw ei orchymynion ef, celwyddog yw, a'r gwirionedd nid yw ynddo;