1 John 2:5 — Compare Translations
7 translations compared side by side
Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
Eithr hwn a gaidw y ’air ef, yn wir yn hwn vv y mae cariat ar D d uw yn berffeith: wrth hyn y gwyddam ein bot ynthaw ef.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
ond pwy bynnag a gadwo Ei air Ef, mewn gwirionedd ynddo ef y mae cariad Duw wedi ei berffeithio. Wrth hyn y gwyddom mai Ynddo Ef yr ydym.
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
Ond pwy bynnag sy’n cadw Ei air, mewn gwirionedd y mae cariad Duw wedi Ei berffeithio ynddo ef.
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Eithr yr hwn a gadwo ei air ef, yn wir yn hwn y mae cariad Duw yn berffaith: wrth hyn y gwyddom ein bod ynddo ef.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Ond os ydy rhywun yn ufudd i beth mae Duw'n ddweud, mae'n amlwg fod cariad Duw yn llenwi bywyd y person hwnnw. Dyma sut mae bod yn siŵr ein bod ni'n perthyn iddo:
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
ond pwy bynnag sy'n cadw ei air ef, yn hwnnw, yn wir, y mae cariad at Dduw wedi ei berffeithio. Dyma sut yr ydym yn gwybod ein bod ynddo ef:
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
eithr pwy bynnag a gadwo ei Air ef, yn wir yn hwn y mae Cariad Duw wedi ei berffeithio. Wrth hyn y gwyddom ein bod ynddo ef.