1 John 2:7 — Compare Translations
7 translations compared side by side
Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
Vrodyr, nyd wyf yn yscrivenu vn gorchymyn newydd atoch, eithyr gorchymyn hen, yr hwn y vu y chwi or dechreu at: yr hen ’orchymyn yw’r gair, yr hwn a glywsoch or dechreu at.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
Anwylyd, nid gorchymyn newydd yr wyf yn ei ’sgrifenu attoch, eithr gorchymyn hen, yr hwn oedd genych o’r dechreuad: y gorchymyn hen yw’r Gair a glywsoch.
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
Rai annwyl, nid gorchymyn newydd yr wyf yn ei ysgrifennu atoch, ond hen orchymyn a oedd gennych o’r dechrau. Yr hen orchymyn, y gair a glywsoch ydyw.
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Y brodyr, nid gorchymyn newydd yr wyf yn ei ysgrifennu atoch, eithr gorchymyn hen yr hwn oedd gennych o'r dechreuad. Yr hen orchymyn yw'r gair a glywsoch o'r dechreuad.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Ffrindiau annwyl, dw i ddim yn sôn am ryw orchymyn newydd. Mae'n hen un! Dyma gafodd ei ddweud o'r dechrau cyntaf. Dyma'r hen orchymyn glywoch chi o'r dechrau.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Gyfeillion annwyl, nid gorchymyn newydd yr wyf yn ei ysgrifennu atoch, ond hen orchymyn, un sydd wedi bod gennych o'r dechrau; y gair a glywsoch yw'r hen orchymyn hwn.
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
Anwyliaid, nid gorchymyn newydd yr wyf yn ei ysgrifennu atoch, ond gorchymyn hen, yr hwn oedd gennych o'r dechreuad: y gorchymyn hen yw y Gair a glywsoch.