1 John 2:8 — Compare Translations

7 translations compared side by side

Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
Trachefn, gorchymyn newydd ydd wyf yn eiscrivenu atoch, yr hyn ’sy yn wir yntho ef, ac yno chwi the hefyt: can ys y tywyllwch aeth heibio, a’r gwir ’olauni ’sy yr awrhon yn llewychu.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
Trachefn, gorchymyn newydd yr wyf yn ei ’sgrifenu attoch, yr hwn beth sydd wir Ynddo Ef ac ynoch chwi, canys y tywyllwch sy’n myned heibio, a’r gwir oleuni sydd eisoes yn tywynnu.
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
Eto, gorchymyn newydd yr wyf yn ei ysgrifennu atoch, — yr hyn sydd wir ynddo Ef ac ynoch chwithau, — gan fod y tywyllwch yn myned heibio a’r goleuni gwirioneddol yn llewyrchu eisoes.
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Trachefn, gorchymyn newydd yr wyf yn ei ysgrifennu atoch, yr hyn sydd wir ynddo ef, ac ynoch chwithau: oblegid y tywyllwch a aeth heibio, a'r gwir oleuni sydd yr awron yn tywynnu.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Ac eto mewn ffordd mae beth dw i'n ysgrifennu amdano yn newydd. Mae i'w weld ym mywyd Iesu Grist ac ynoch chithau hefyd. Achos mae'r tywyllwch yn diflannu ac mae'r golau go iawn wedi dechrau disgleirio.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Eto, yr wyf yn ysgrifennu atoch orchymyn newydd, rhywbeth sydd yn wir ynddo ef ac ynoch chwithau; oherwydd y mae'r tywyllwch yn mynd heibio, a'r gwir oleuni eisoes yn tywynnu.
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
Trachefn, gorchymyn newydd yr wyf yn ei ysgrifennu atoch, yr hwn beth sydd yn wir ynddo ef ac ynoch chwithau; canys y tywyllwch sydd yn myned heibio, a'r gwirioneddol oleuni sydd eisoes yn tywynnu.