1 John 3:1 — Compare Translations

7 translations compared side by side

Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
GWelwch, pa’r y gariat a roes y Tat arnam, val in gelwit yn veib ion Dew: o bleit hyn ny d edwyn y byt chwi, can nad edwyn e efe.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
Gwelwch y fath gariad a roddwyd i ni gan y Tad, mai’r Plant i Dduw y’n gelwir; ac yr ydym. Oblegid hyn y byd ni’n hedwyn, gan nad adnabu Ef.
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
Gwelwch y fath gariad y mae’r Tad wedi ei roddi i ni, cael ein galw yn blant Duw, ac yr ydym (yn blant Duw). Oherwydd hyn nid yw’r byd yn ein hadnabod, am nad adnabu Ef.
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Gwelwch pa fath gariad a roes y Tad arnom, fel y'n gelwid yn feibion i Dduw: oblegid hyn nid edwyn y byd chwi, oblegid nad adnabu efe ef.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Meddyliwch mor aruthrol fawr ydy'r cariad mae'r Tad wedi ei ddangos aton ni! Dŷn ni'n cael ein galw'n blant Duw! Ac mae'n berffaith wir! Y rheswm pam dydy'r byd ddim yn derbyn hynny ydy eu bod nhw ddim wedi nabod y Meseia chwaith.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Gwelwch pa fath gariad y mae'r Tad wedi ei ddangos tuag atom: cawsom ein galw yn blant Duw, a dyna ydym. Y rheswm nad yw'r byd yn ein hadnabod ni yw nad oedd yn ei adnabod ef.
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
Gwelwch y fath gariad a roddodd y Tâd i ni, fel y'n gelwir yn blant Duw: a'r cyfryw ydym. O achos hyn, nid edwyn y byd ni, gan nad adnabu ef.