1 John 3:10 — Compare Translations

7 translations compared side by side

Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
Yn hyn yr adwenir plant Dew, a phlant diavol: pwy pynac ny wna gyfiawnder, nyd ef yw o Ddew, n a’r hwn ny char ei vrawt.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
Yn hyn amlwg yw plant Duw a phlant diafol: pob un nad yw yn gwneuthur cyfiawnder, nid yw o Dduw, ac yr hwn nad yw yn caru ei frawd.
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
Yn hyn y mae’n hysbys blant Duw a phlant y diafol. Nid oes neb nad yw’n gwneuthur cyfiawnder o Dduw, ac nad yw’n caru ei frawd;
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Yn hyn y mae yn amlwg plant Duw, a phlant diafol: Pob un a'r sydd heb wneuthur cyfiawnder, nid yw o Dduw, na'r hwn nid yw yn caru ei frawd.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Felly mae'n gwbl amlwg pwy sy'n blant i Dduw a phwy sy'n blant i'r diafol: Dydy'r bobl hynny sydd ddim yn gwneud beth sy'n iawn ddim yn blant i Dduw — na chwaith y bobl hynny sydd ddim yn caru'r brodyr a'r chwiorydd.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Dyma sut y mae'n amlwg pwy yw plant Duw a phwy yw plant y diafol: pob un nad yw'n gwneud cyfiawnder, nid yw o Dduw, na'r hwn nad yw'n caru ei gydaelod.
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
Yn hyn amlwg yw plant Duw a phlant y Diafol: Pob un nad yw yn gwneuthur cyfiawnder, nid yw o Dduw, a'r hwn nad yw yn caru ei frawd.