1 John 3:12 — Compare Translations
7 translations compared side by side
Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
Ny d mal Cain yr hvvn oeð or Vall, ac a ladoð ei vrawt: ac er mwyn pa beth y lladawdd ef vo? can vot y weithredoedd e yhun yn ddrwc, a’r ei ei vrawt yn dda. Yr Epistol yr ij. Sul gwedy yr Trintot.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
nid fel yr oedd Cain o’r un drwg, ac a laddodd ei frawd. A phaham y lladdodd ef? O herwydd i’w weithredoedd ef fod yn ddrwg, a’r eiddo ei frawd yn gyfiawn.
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
nid fel yr oedd Cain o’r un drwg, a lladd ei frawd. Ac oherwydd pa beth y lladdodd ef? Am fod ei weithredoedd ef yn ddrwg, a gweithredoedd ei frawd yn gyfiawn.
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Nid fel Cain, yr hwn oedd o'r drwg, ac a laddodd ei frawd. A phaham y lladdodd ef? Oblegid bod ei weithredoedd ef yn ddrwg, a'r eiddo ei frawd yn dda.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Rhaid i ni beidio bod fel Cain, oedd yn perthyn i'r un drwg ac a laddodd ei frawd. A pham wnaeth e ladd ei frawd? Am fod Cain wedi gwneud drwg, a'i frawd wedi gwneud y peth iawn.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Nid fel Cain, a oedd o'r Un drwg ac a laddodd ei frawd. A pham y lladdodd ef? Oherwydd fod ei weithredoedd ef yn ddrwg, a gweithredoedd ei frawd yn gyfiawn.
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
Nid fel yr oedd Cain o'r Un Drwg, ac a laddodd ei frawd. A phaham y lladdodd ef? Oherwydd bod ei weithredoedd ef yn ddrwg, a'r eiddo ei frawd yn gyfiawn.