1 John 3:14 — Compare Translations

7 translations compared side by side

Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
Ny ni a wyddom ddarvot ein ysmuto o varwolaeth y vywyt, can ein bot yn caru y broder: hwn ny charo ei vrawt, ’sy’ n aros yn angen.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
Nyni a wyddom yr aethom drosodd o farwolaeth i fywyd, o herwydd caru o honom y brodyr. Yr hwn nad yw’n caru, aros ym marwolaeth y mae.
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
Gwyddom ni ein bod wedi croesi o farwolaeth i fywyd, gan ein bod yn caru’r brodyr; y mae’r hwn nad yw’n caru yn aros ym marwolaeth.
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Nyni a wyddom ddarfod ein symud ni o farwolaeth i fywyd, oblegid ein bod yn caru'r brodyr. Yr hwn nid yw yn caru ei frawd, y mae yn aros ym marwolaeth.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Dŷn ni'n caru'n gilydd, ac felly'n gwybod ein bod ni wedi symud o fod yn farw'n ysbrydol i fod yn fyw'n ysbrydol. Mae unrhyw un sydd ddim yn dangos cariad felly yn dal yn farw'n ysbrydol.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Yr ydym ni'n gwybod ein bod wedi croesi o farwolaeth i fywyd, am ein bod yn caru ein cydaelodau; y mae'r sawl nad yw'n caru yn aros mewn marwolaeth.
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
Nyni a wyddom fyned drosodd o honom allan o farwolaeth i fywyd oblegyd ein bod yn caru y brodyr. Yr hwn nid yw yn caru, y mae yn aros mewn marwolaeth.