1 John 3:16 — Compare Translations

7 translations compared side by side

Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
Wrth hyn y gwybuom gariat, can yddo ef ddodi ei einioes drosom ni: a’ ni neu a ddlem ddodi ein einioes dros ein broder.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
Yn hyn y mae gwybodaeth am gariad genym, am Iddo Ef ddodi i lawr Ei fywyd drosom ni. A ninnau a ddylem ddodi i lawr ein bywyd dros y brodyr.
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
Wrth hyn yr adwaenom y cariad, Ei fod Ef wedi rhoddi drosom ni Ei fywyd a dylem ninnau roddi ein bywydau dros y brodyr.
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Yn hyn yr adnabuom gariad Duw, oblegid dodi ohono ef ei einioes drosom ni: a ninnau a ddylem ddodi ein heinioes dros y brodyr.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Dyma sut dŷn ni'n gwybod beth ydy cariad go iawn: Rhoddodd Iesu, y Meseia, ei fywyd yn aberth troson ni. Felly dylen ni aberthu'n hunain dros ein cyd-Gristnogion.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Dyma sut yr ydym yn gwybod beth yw cariad: am iddo ef roi ei einioes drosom ni. Ac fe ddylem ninnau roi ein heinioes dros ein cydaelodau.
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
Yn hyn yr ydym yn adnabod cariad, am ddodi o hono ef ei einioes drosom ni, a ninnau a ddylem ddodi ein heinioes dros y brodyr.