1 John 3:17 — Compare Translations

7 translations compared side by side

Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
A’phwy pynac ysy ganthaw vywyt y byt hwn ac a wyl ei vrawt mewn eisieu, ac a gayo ei dostri o dd ywrthaw, p’wedd y trig cariat ar D d ew ynthaw?
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
Ond pwy bynnag sydd a chanddo dda y byd, ac a welo ei frawd mewn eisiau, ac a gauo ei dosturi oddiwrtho, pa fodd y mae cariad Duw yn aros ynddo?
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
Ond y neb sydd mewn bywoliaeth yn y byd ac yn edrych ar ei frawd ac yntau mewn eisiau, a chau ei galon yn ei erbyn, pa fodd y mae cariad Duw yn aros yn hwnnw?
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Eithr yr hwn sydd ganddo dda'r byd hwn, ac a welo ei frawd mewn eisiau, ac a gaeo ei dosturi oddi wrtho, pa fodd y mae cariad Duw yn aros ynddo ef?
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Os oes gan rywun ddigon o arian ac eiddo, ac yn gweld fod brawd neu chwaer mewn angen, ac eto'n dewis gwneud dim byd i'w helpu nhw, sut allwch chi ddweud fod cariad Duw yn rhywun felly?
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Pwy bynnag sydd meddiannau'r byd ganddo, ac yn gweld ei gydaelod mewn angen, ac eto'n cau ei galon yn ei erbyn, sut y mae cariad Duw yn aros ynddo?
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
Eithr pwy bynnag sydd ganddo dda y byd, ac a sylwo ar ei frawd mewn eisieu, ac a gauo ei dosturi oddiwrtho, pa fodd y mae cariad Duw yn aros ynddo ef?