1 John 3:2 — Compare Translations
7 translations compared side by side
Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
A garedigion, yr owrhon ydd ym ni veibion Dew, eithyr nyd ymddangosawdd eto pa beth vyddwn: a’ gwyðam pan ymddangoso ef, y byddwn gyffelip yddaw: can ys gwelwn ef megis ac y mae ef.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
Anwylyd, yn awr, plant i Dduw ydym; ac nid amlygwyd etto pa beth a fyddwn: gwyddom ped amlyger, cyffelyb Iddo y byddwn, y gwelwn Ef fel y mae.
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
Rai annwyl, plant Duw ydym yn awr, ac nid amlygwyd eto beth a fyddwn. Gwyddom, pan amlyger, y byddwn debyg iddo Ef, oherwydd gwelwn Ef fel y mae.
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Anwylyd, yr awr hon meibion i Dduw ydym, ac nid amlygwyd eto beth a fyddwn: eithr ni a wyddom, pan ymddangoso efe, y byddwn gyffelyb iddo: oblegid ni a gawn ei weled ef megis ag y mae.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Ffrindiau annwyl, dŷn ni'n blant Duw nawr! Dŷn ni ddim yn gallu dechrau dychmygu sut fyddwn ni yn y byd sydd i ddod! Ond dŷn ni'n gwybod gymaint â hyn: pan fydd Iesu'n dod yn ôl i'r golwg byddwn ni'n debyg iddo. Cawn ei weld e yn ei holl ysblander!
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Gyfeillion annwyl, yn awr yr ydym yn blant Duw, ac nid amlygwyd eto beth a fyddwn. Yr ydym yn gwybod, pan fydd ef yn ymddangos, y byddwn yn debyg iddo, oherwydd cawn ei weld ef fel y mae.
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
Anwyliaid, yn awr plant Duw ydym, ac nid amlygwyd eto beth a fyddwn: gwyddom, ped amlyger, y byddwn gyffelyb iddo ef, oblegyd ni a'i gwelwn ef fel y mae.