1 John 3:21 — Compare Translations

7 translations compared side by side

Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
Caredigion, a’s ein calon ni’n condemna, yno y mae y ni hyder ar Dduw.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
Anwylyd, os ein calon na’n condemnia, hyder sydd genym tuag at Dduw;
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
Rai annwyl, onid yw ein calon yn ein condemnio, y mae gennym hyder tuag at Dduw,
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Anwylyd, os ein calon ni'n condemnia, y mae gennym hyder ar Dduw.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Ffrindiau annwyl, os ydy'r gydwybod yn glir gallwn sefyll yn hyderus o flaen Duw.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Gyfeillion annwyl, os nad yw'n calon yn ein condemnio, y mae gennym hyder gerbron Duw,
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
Anwyliaid, os ein calon ni'n condemnia, y mae gennym hyfder tu ag at Dduw.