1 John 3:23 — Compare Translations

7 translations compared side by side

Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
Hwn gan hyny yw y ’orchymyn ef, vot y ni gredu yn Enw ei Vap Iesu Christ, a’ charu eu gylyð, mal y rroes ef ’orchymyn.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
A hwn yw Ei orchymyn; Gredu o honom yn enw Ei Fab Iesu Grist, a charu ein gilydd fel y rhoes Efe orchymyn i ni.
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
A hwn yw Ei orchymyn Ef, gredu ohonom yn enw Ei Fab Ef Iesu Grist a charu ein gilydd fel y rhoes orchymyn inni.
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
A hwn yw ei orchymyn ef; Gredu ohonom yn enw ei Fab ef Iesu Grist, a charu ein gilydd, megis y rhoes efe orchymyn i ni.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
A dyma ei orchymyn e: ein bod ni i gredu yn enw ei Fab, Iesu y Meseia, a charu'n gilydd yn union fel y dwedodd wrthon ni.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Dyma ei orchymyn: ein bod i gredu yn enw ei Fab ef, Iesu Grist, a charu'n gilydd, yn union fel y rhoddodd ef orchymyn inni.
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
A hwn yw ei orchymyn ef: Gredu o honom yn enw ei Fab ef Iesu Grist, a charu ein gilydd, megys y rhoddes efe orchymyn i ni.