1 John 3:24 — Compare Translations

7 translations compared side by side

Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
Can ys yr hwn a gaidw y ’orchymynion ef, a drig ynto ef, ac ynt ef yntho ef: ac wrth hyn y gwyddam y vot ef yn aros ynom, ys ef o’r Yspryt y roddes ef y ni.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
A’r hwn sy’n cadw Ei orchymynion, Ynddo Ef y mae yn aros, ac Yntau ynddo yntau; ac wrth hyn y gwyddom mai aros y mae Efe ynom, sef o’r Yspryd, yr Hwn a roddes Efe i ni.
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
Ac y mae’r hwn sy’n cadw Ei orchmynion Ef yn aros ynddo Ef, ac Yntau ynddo yntau. Ac wrth hyn y gwyddom Ei fod yn aros ynom, o’r ysbryd a roes i ni.
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
A'r hwn sydd yn cadw ei orchmynion ef, sydd yn trigo ynddo ef, ac yntau ynddo yntau. Ac wrth hyn y gwyddom ei fod ef yn aros ynom, sef o'r Ysbryd a roddes efe i ni.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Mae'r rhai sy'n ufudd iddo yn byw ynddo, ac mae ei fywyd e ynddyn nhw. A dŷn ni'n gwybod fod ei fywyd e ynon ni am ei fod e wedi rhoi'r Ysbryd i ni.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Y mae'r sawl sy'n cadw ei orchmynion ef yn aros ynddo ef, ac ef ynddo yntau. Dyma sut yr ydym yn gwybod ei fod ef yn aros ynom ni: trwy'r Ysbryd a roddodd ef inni.
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
A'r hwn sydd yn cadw ei orchymynion ef sydd yn trigo ynddo ef, ac yntau ynddo yntau, ac yn hyn y gwyddom ei fod ef yn aros ynom, trwy yr Yspryd a roddodd efe i ni.