1 John 3:6 — Compare Translations

7 translations compared side by side

Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
Pwy pynac ’sy ’n aros yntho ef, ny phecha ef: pwy pynac a pecha, ny welawdd ddim o hanaw, ac ny’s adnabu ef.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
Pob un y sy’n aros Ynddo Ef, nid yw yn pechu; pob un y sy’n pechu, ni welodd Ef, ac nid yw yn Ei adnabod Ef chwaith.
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
Nid oes neb sy’n aros ynddo Ef yn pechu. Nid oes neb sy’n pechu wedi Ei weled nac yn Ei adnabod.
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Pob un a'r sydd yn aros ynddo ef, nid yw yn pechu: pob un a'r sydd yn pechu, nis gwelodd ef, ac nis adnabu ef.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
felly does neb sy'n byw mewn perthynas ag e yn dal ati i bechu. Dydy'r rhai sy'n dal ati i bechu ddim wedi ei ddeall na'i nabod e.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Nid oes neb sy'n aros ynddo ef yn pechu; nid yw'r sawl sy'n pechu wedi ei weld ef na'i adnabod ef.
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
Pob un a'r sydd yn aros ynddo ef, nid yw yn pechu; pob un sydd yn pechu, nid yw wedi ei weled ef, nac ychwaith wedi ei adnabod ef.