1 John 3:7 — Compare Translations
7 translations compared side by side
Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
Blant bechain, na thwyllet nep chwi: yr hwn a wna gyfiawnder, ys y gyfiawn, megis y mae yn tef yn gyfiawn.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
Plant bychain, na fydded i neb eich arwain ar gyfeiliorn. Yr hwn sy’n gwneuthur cyfiawnder, cyfiawn yw, fel y mae Efe yn gyfiawn.
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
Blant bach, nac arweinied neb chwi ar gyfeiliorn. Y mae’r neb sy’n gwneuthur cyfiawnder yn gyfiawn, fel y mae Ef yn gyfiawn.
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
O blant bychain, na thwylled neb chwi: yr hwn sydd yn gwneuthur cyfiawnder, sydd gyfiawn, megis y mae yntau yn gyfiawn.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Blant annwyl, peidiwch gadael i unrhyw un eich camarwain chi. Mae rhywun sy'n gwneud beth sy'n iawn yn dangos ei fod yn gyfiawn, yn union fel y mae'r Meseia yn gyfiawn.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Blant, peidiwch gadael i neb eich arwain ar gyfeiliorn. Y mae'r sawl sy'n gwneud cyfiawnder yn gyfiawn, fel y mae ef yn gyfiawn.
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
Blant bychain, na fydded i neb eich arwain ar gyfeiliorn. Yr hwn sydd yn gwneuthur cyfiawnder sydd gyfiawn, fel y mae efe yn gyfiawn.