1 John 3:8 — Compare Translations

7 translations compared side by side

Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
Hwn a wna bechot, o dðiavol y mae: can ys diavol a becha or dechreu: er mvvyn hyn yr ymddangosodd Map Dew, val yd atdodei ef weithredoedd diavol.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
Yr hwn sy’n gwneuthur pechod, o ddiafol y mae, canys o’r dechreuad y mae diafol yn pechu. Er mwyn hyn yr amlygwyd Mab Duw, fel y dattodai weithredoedd diafol.
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
Y neb sy’n gwneuthur pechod, o’r diafol y mae, oherwydd y mae’r diafol yn pechu o’r dechrau. I hyn yr amlygwyd mab Duw, — er mwyn iddo ddatod gweithredoedd y diafol.
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Yr hwn sydd yn gwneuthur pechod, o ddiafol y mae; canys y mae diafol yn pechu o'r dechreuad. I hyn yr ymddangosodd Mab Duw, fel y datodai weithredoedd diafol.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Mae'r rhai sy'n mynnu pechu yn dod o'r diafol. Dyna mae'r diafol wedi ei wneud o'r dechrau — pechu! Ond y rheswm pam ddaeth Mab Duw i'r byd oedd i ddinistrio gwaith y diafol.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
o'r diafol y mae'r sawl sy'n cyflawni pechod, oherwydd y mae'r diafol yn pechu o'r dechreuad. I ddinistrio gweithredoedd y diafol yr ymddangosodd Mab Duw.
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
Yr hwn sydd yn gwneuthur pechod, o Ddiafol y mae; canys y mae y Diafol yn pechu o'r dechreuad. I hyn yr amlygwyd Mab Duw, fel y datodai weithredoedd y Diafol.