1 John 3:9 — Compare Translations
7 translations compared side by side
Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
Pop vn a anet o Ddew, ny phecha: can ys y had ef ys ydd yn aros ynthaw, ac ny all ef bechu, can y eni ef o Dduw.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
Pob un o’r a genhedlwyd o Dduw, pechod nid yw yn ei wneud, canys Ei had Ef sydd ynddo ef yn aros; ac ni all bechu gan mai o Dduw y’i cenhedlwyd.
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
Nid oes neb sydd yn hanfod o Dduw yn gwneuthur pechod, gan fod Ei had Ef yn aros ynddo. Ac ni all bechu am ei fod yn hanfod o Dduw.
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Pob un a aned o Dduw, nid yw yn gwneuthur pechod; oblegid y mae ei had ef yn aros ynddo ef: ac ni all efe bechu, am ei eni ef o Dduw.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Dydy'r rhai sydd wedi eu geni'n blant i Dduw ddim yn dal ati i bechu, am fod rhywbeth o natur Duw wedi ei blannu ynddyn nhw fel hedyn. Dyn nhw ddim yn gallu dal ati i bechu am eu bod nhw wedi cael eu geni'n blant i Dduw.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Nid oes neb sydd wedi ei eni o Dduw yn cyflawni pechod, oherwydd y mae had Duw yn aros ynddo; ac ni all bechu, oherwydd ei fod wedi ei eni o Dduw.
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
Pob un sydd wedi ei genhedlu o Dduw, nid yw yn gwneuthur pechod, canys ei hâd ef sydd ynddo ef yn aros; ac ni all efe bechu, am ei genhedlu ef o Dduw.