1 John 4:1 — Compare Translations
7 translations compared side by side
Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
CAredigion, na chredwch bop yspryt, eithr provwch yr ysprytion ai o Dduw yð ynt: can’s gau bropwyti lawer aethont allant ir byt.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
Anwylyd, nid i bob yspryd rhoddwch gred, eithr profwch yr ysprydion ai o Dduw y maent; canys llawer o au-brophwydi sydd wedi myned allan i’r byd.
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
Rai annwyl, na chredwch ym mhob ysbryd, ond gosodwch yr ysbrydion ar brawf a ydynt o Dduw, oherwydd y mae llawer o broffwydi gau a wedi myned allan i’r byd.
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Anwylyd, na chredwch bob ysbryd, eithr profwch yr ysbrydion ai o Dduw y maent: oblegid y mae gau broffwydi lawer wedi myned allan i'r byd.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Ffrindiau annwyl, peidiwch credu pawb sy'n dweud eu bod nhw'n siarad drwy'r Ysbryd. Rhaid i chi eu profi nhw i weld os ydy beth maen nhw'n ddweud wir yn dod oddi wrth Dduw. Mae digon o broffwydi ffals o gwmpas.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Gyfeillion annwyl, peidiwch chredu pob ysbryd, ond profwch yr ysbrydion i gael gwybod a ydynt o Dduw, oherwydd y mae gau broffwydi lawer wedi mynd allan i'r byd.
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
Anwyliaid, na chredwch bob yspryd, eithr profwch yr ysprydion, ai o Dduw y maent, oblegyd y mae gau‐brophwydi lawer wedi myned allan i'r byd.