1 John 4:10 — Compare Translations
7 translations compared side by side
Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
Yn hyn y mae cariat, nyd am ddaruot y ni garu Duw, eithyr am yddaw ef ein caru ni, ac anvon ei Vap y vot yn gyssiliat tros ein pechoteu.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
Yn hyn y mae cariad, nid am mai nyni a garasom Dduw, eithr mai Efe a’n carodd ni, ac a ddanfonodd Ei Fab yn iawn am ein pechodau.
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
Yn hyn y mae’r cariad, nid am ein bod ni wedi caru Duw, ond am iddo Ef ein caru ni ac anfon Ei Fab yn iawn am ein pechodau.
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Yn hyn y mae cariad; nid am i ni garu Duw, ond am iddo ef ein caru ni, ac anfon ei Fab i fod yn iawn dros ein pechodau.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Dyma beth ydy cariad: dim y ffaith ein bod ni'n caru Duw, ond y ffaith ei fod e wedi'n caru ni ac anfon ei Fab yn aberth oedd yn gwneud iawn am ein pechodau ni.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Yn hyn y mae cariad: nid ein bod ni'n caru Duw, ond ei fod ef wedi ein caru ni, ac wedi anfon ei Fab i fod yn aberth cymod dros ein pechodau.
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
Yn hyn y mae cariad, nid am i ni garu Duw, ond am iddo ef ein caru ni, ac anfon ei Fab i fod yn Iawn am ein pechodau ni.