1 John 4:12 — Compare Translations

7 translations compared side by side

Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
Ny welawdd nep Dduw erioed. As carwn ni eu gylydd, y mae Duw yn trigio ynom, a’i gariat ys y perffeith ynom.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
Duw, ni fu i neb erioed Ei weled. Os carwn ein gilydd Duw sydd ynom yn aros, ac Ei gariad sydd wedi ei berffeithio ynom.
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
Nid oes neb erioed wedi gweled Duw; os ydym yn caru ein gilydd, y mae Duw yn aros ynom ac y mae Ei gariad wedi Ei berffeithio ynom ni.
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Ni welodd neb Dduw erioed. Os carwn ni ein gilydd, y mae Duw yn trigo ynom, ac y mae ei gariad ef yn berffaith ynom.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Does neb erioed wedi gweld Duw; ond os ydyn ni'n caru'n gilydd, mae Duw yn byw ynon ni ac mae ei gariad yn dod yn real yn ein bywydau ni.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Nid oes neb wedi gweld Duw erioed; os ydym yn caru ein gilydd, y mae Duw yn aros ynom, ac y mae ei gariad ef wedi ei berffeithio ynom ni.
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
Ni edrychodd neb ar Dduw erioed: Os carwn ni ein gilydd, y mae Duw yn aros ynom, ac y mae ei gariad ef wedi ei berffeithio ynom.