1 John 4:16 — Compare Translations
7 translations compared side by side
Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
A’ ny ni a adnabuom, ac a gredasam y cariat ys y gan Dduw ynom ni. Duw cariat yw, a’r hwn a drig yn‐cariat, a drig yn‐Duw, a’ Duw yndo yn tef.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
Ac nyni a wyddom ac a gredasom y cariad y sydd gan Dduw ynom. Duw, cariad yw; a’r hwn sy’n aros mewn cariad, yn Nuw y mae yn aros, a Duw sydd ynddo yntau yn aros.
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
Ac yr ydym ni yn gwybod ac wedi credu’r cariad sydd gan Dduw ynom. Cariad yw Duw, ac y mae’r hwn sy’n aros yn y cariad yn aros yn Nuw a Duw’n aros ynddo yntau.
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
A nyni a adnabuom ac a gredasom y cariad sydd gan Dduw tuag atom ni. Duw, cariad yw: a'r hwn sydd yn aros mewn cariad, sydd yn aros yn Nuw, a Duw ynddo yntau.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Dŷn ni'n gwybod faint mae Duw yn ein caru ni, a dŷn ni'n dibynnu'n llwyr ar y cariad hwnnw. Cariad ydy Duw. Mae'r rhai sy'n byw yn y cariad yma yn byw yn Nuw, ac mae Duw yn byw ynddyn nhw.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Felly yr ydym ni wedi dod i adnabod a chredu'r cariad sydd gan Dduw tuag atom. Cariad yw Duw, ac y mae'r sawl sy'n aros mewn cariad yn aros yn Nuw, a Duw yn aros ynddo yntau.
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
A nyni a wyddom ac a gredasom y cariad sydd gan Dduw ynom ni. DUW CARIAD YW, a'r hwn sydd yn aros mewn cariad sydd yn aros yn Nuw, ac y mae Duw yn aros ynddo yntau.