1 John 4:17 — Compare Translations

7 translations compared side by side

Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
Yn hyn y cwplëir y cariat ynom, val y bo y ni hyder yn‐dydd y varn: can ys mal y may ef, ys velly ydd ym ni neu yn y byt hwn.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
Yn hyn y perffeithiwyd cariad gyda ni, fel y bo hyder genym yn nydd y farn, canys fel y mae Efe, ninnau hefyd ydym yn y byd hwn.
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
Yn hyn y mae cariad Duw wedi ei berffeithio gennym, y bydd gennym hyder yn nydd y farn, am ein bod ninnau hefyd yn debyg iddo yntau yn y byd hwn.
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Yn hyn y perffeithiwyd ein cariad ni, fel y caffom hyder ddydd y farn: oblegid megis ag y mae efe, yr ydym ninnau hefyd yn y byd hwn.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Am bod cariad yn beth real yn ein plith ni, dŷn ni'n gallu bod yn gwbl hyderus ar y diwrnod pan fydd Duw yn barnu. Dŷn ni'n byw yn y byd yma fel gwnaeth Iesu Grist fyw.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Yn hyn y mae cariad wedi cael ei berffeithio ynom: bod gennym hyder yn Nydd y Farn, oherwydd fel y mae ef, felly yr ydym ninnau hefyd yn y byd hwn.
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
Yn hyn y perffeithiwyd cariad gyda ni, fel y caffom hyfder Ddydd y Farn; oblegyd fel y mae efe, felly yr ydym ninnau hefyd yn y byd hwn.