1 John 4:18 — Compare Translations

7 translations compared side by side

Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
Nyd oes ofn yn‐cariat, eithr perffeith gariat a vwrw allan ofn: o bleit y mae i ofn poenedigeth: a hwn a ofna, ny d yw perffeith yn‐cariat.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
Ofn nid oes mewn cariad; eithr perffaith gariad, allan y teifl ofn, canys ofn sydd a chospedigaeth ganddo; a’r hwn sydd yn ofni ni pherffeithiwyd mewn cariad.
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
Nid oes ofn mewn cariad, ond y mae cariad perffaith yn bwrw ofn allan, oherwydd y mae ofn ynglŷn wrth gosb, ac nid yw’r hwn sydd yn ofni wedi ei berffeithio mewn cariad.
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Nid oes ofn mewn cariad; eithr y mae perffaith gariad yn bwrw allan ofn: oblegid y mae i ofn boenedigaeth. A'r hwn sydd yn ofni, ni pherffeithiwyd mewn cariad.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Does dim ofn yn agos at y cariad yma, achos mae cariad perffaith yn cael gwared ag ofn yn llwyr. Os ydyn ni'n ofnus mae'n dangos ein bod ni'n disgwyl cael ein cosbi, a'n bod ni ddim wedi cael ein meddiannu'n llwyr gan gariad Duw.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Nid oes ofn mewn cariad, ond y mae cariad perffaith yn bwrw allan ofn; y mae a wnelo ofn chosb, ac nid yw'r sawl sy'n ofni wedi ei berffeithio mewn cariad.
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
Nid oes ofn mewn cariad: eithr y mae perffaith gariad yn bwrw allan ofn, oblegyd y mae i ofn gospedigaeth; a'r hwn sydd yn ofni ni pherffeithiwyd mewn cariad.