1 John 4:20 — Compare Translations
7 translations compared side by side
Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
A’s dywait nep, Mi a garaf Dduw, ac yn casau ei vrawt, celwyddawc yw: can ys pa‐ðelw y gall ef yr hwn ny char ei vrawt a welawð ef, garu Duw ’rhwn ny welawdd?
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
Os rhyw un a ddywaid, Caru Duw yr wyf, ac ei frawd yn gas ganddo, celwyddwr yw; canys yr hwn nad yw yn caru ei frawd yr hwn a welodd, Duw, yr Hwn ni welodd efe, ni fedr efe Ei garu.
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
Os dywed neb “yr wyf yn caru Duw” ac yntau’n casáu ei frawd, celwyddog yw. Oherwydd ni all yr hwn na châr ei frawd y mae wedi ei weled, garu Duw y mae heb Ei weled.
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Os dywed neb, Yr wyf yn caru Duw, ac efe yn casáu ei frawd, celwyddog yw: canys yr hwn nid yw yn caru ei frawd yr hwn a welodd, pa fodd y gall efe garu Duw yr hwn nis gwelodd?
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Pwy bynnag sy'n dweud ei fod yn caru Duw ac eto ar yr un pryd yn casáu brawd neu chwaer, mae'n dweud celwydd. Os ydy rhywun ddim yn gallu caru Cristion arall mae'n ei weld, sut mae e'n gallu caru'r Duw dydy e erioed wedi ei weld?
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Os dywed rhywun, "Rwy'n caru Duw", ac yntau'n casu ei gydaelod, y mae'n gelwyddog; oherwydd ni all neb nad yw'n caru cydaelod y mae wedi ei weld, garu Duw nad yw wedi ei weld.
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
Os dywed neb, Yr wyf yn caru Duw, ac yn casâu ei frawd, celwyddog yw; canys yr hwn nid yw yn caru ei frawd a welodd, nis gall garu Duw, yr hwn nis gwelodd.