1 John 4:6 — Compare Translations
7 translations compared side by side
Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
Ny ni o Ddew ydd ym, yr hwn a edwyn Ddyw, a’n clyw ni: yr hwn nyd yw o Ddyw, ni’n clyw ni. Wrth hyn yr adwaynom yspryt y gwirionedd, ac yspryt y cyfeilorn i. Yr Epistol y Sul cyntaf gvedy Trintot
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
Nyni, o Dduw yr ydym: yr hwn sy’n adnabod Duw, sydd yn ein gwrando; yr hwn nad yw o Dduw, nid yw yn ein gwrando. Oddiwrth hyn yr adnabyddwn Yspryd y gwirionedd, ac yspryd cyfeiliorni.
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
Nyni, o Dduw yr ydym. Y mae’r hwn sy’n adnabod Duw yn gwrando arnom, a’r hwn nad yw o Dduw, nid yw yn gwrando arnom. Wrth hyn yr adwaenom ysbryd gwirionedd ac ysbryd cyfeiliomad.
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Nyni, o Dduw yr ydym. Yr hwn sydd yn adnabod Duw, sydd yn ein gwrando ni: yr hwn nid yw o Dduw, nid yw yn ein gwrando ni. Wrth hyn yr adwaenom ysbryd y gwirionedd, ac ysbryd y cyfeiliorni.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Ond dŷn ni'n perthyn i Dduw, felly'r rhai sy'n nabod Duw sy'n gwrando arnon ni. Dydy'r rhai sydd ddim yn perthyn i Dduw ddim yn gwrando arnon ni. Dyma sut mae gwybod os mai Ysbryd y gwirionedd neu ysbryd twyll sydd gan rywun.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
O Dduw yr ydym ni; y mae'r hwn sy'n adnabod Duw yn gwrando arnom ni, a'r hwn nad yw o Dduw, nid yw'n gwrando arnom ni. Dyma sut yr ydym yn adnabod ysbryd y gwirionedd ac ysbryd cyfeiliornad.
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
Nyni o Dduw yr ydym: yr hwn sydd yn adnabod Duw sydd yn ein gwrandaw ni; yr hwn nad yw o Dduw nid yw yn ein gwrandaw ni. Wrth hyn yr adwaenom Yspryd y Gwirionedd ac Yspryd cyfeiliornad.