1 John 5:10 — Compare Translations
7 translations compared side by side
Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
Yr hwn a gred ym‐Map Dyw, y may iddo y testiolaeth yndo ehunan: hwn ny chred y D d uw, y gwnaeth ef yn gelwyddoc, can na chredawdd y destiolaeth, a destiolaethodd Dyw am ei Vap.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
Yr hwn sy’n credu ym Mab Duw sydd a’r dystiolaeth ynddo ei hun; yr hwn nad yw’n credu yn Nuw, celwyddwr y’i gwnaeth Ef, gan na chredodd yn y dystiolaeth a dystiolaethodd Duw am Ei Fab.
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
Y mae gan yr hwn sy’n credu ym Mab Duw y dystiolaeth ynddo’i hun: y mae’r hwn nad yw’n credu Duw, wedi Ei wneuthur Ef yn gelwyddog, am nad yw wedi credu yn y dystiolaeth a dystiodd Duw am Ei Fab.
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Yr hwn sydd yn credu ym Mab Duw, sydd ganddo'r dystiolaeth ynddo ei hun: yr hwn nid yw yn credu yn Nuw, a'i gwnaeth ef yn gelwyddog, oblegid na chredodd y dystiolaeth a dystiolaethodd Duw am ei Fab.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Mae pawb sy'n credu ym Mab Duw yn gwybod fod y dystiolaeth yn wir. Ond mae'r rhai sy'n gwrthod credu Duw yn gwneud Duw ei hun yn gelwyddog, am eu bod wedi gwrthod credu beth mae Duw wedi ei dystio am ei Fab.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Y mae gan y sawl sy'n credu ym Mab Duw y dystiolaeth ynddo'i hun. Y mae'r sawl nad yw'n credu Duw yn ei wneud ef yn gelwyddog, am nad yw wedi credu'r dystiolaeth y mae Duw wedi ei rhoi.
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
Yr hwn sydd yn credu ym Mab Duw, y mae ganddo y dystiolaeth ynddo ei hun; yr hwn nid yw yn credu Duw a'i gwnaeth ef yn gelwyddwr, oblegyd na chredodd yn y dystiolaeth yr hon a dystiolaethodd Duw am ei Fab.