1 John 5:12 — Compare Translations

7 translations compared side by side

Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
Hwn y mae y Map yddaw, y may y bywyt yddaw: a’ hwn nyd yw yddaw Vap Dyw, nyd oes yddaw vywyt.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
Yr hwn sydd a chanddo’r Mab, sydd a chanddo y bywyd: yr hwn nad yw a chanddo Fab Duw, y bywyd nid yw ganddo.
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
Gan yr hwn y mae’r Mab ganddo y mae bywyd, ac nid oes fywyd gan yr hwn nid yw Mab Duw ganddo.
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Yr hwn y mae'r Mab ganddo, y mae'r bywyd ganddo; a'r hwn nid yw ganddo Fab Duw, nid oes ganddo fywyd.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Felly os ydy'r Mab gan rywun, mae'r bywyd ganddo; ond does dim bywyd gan y rhai dydy'r Mab ddim ganddyn nhw.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Y sawl y mae'r Mab ganddo, y mae'r bywyd ganddo; y sawl nad yw Mab Duw ganddo, nid yw'r bywyd ganddo.
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
Yr hwn y mae y Mab ganddo y mae y bywyd ganddo; yr hwn nid yw ganddo Fab Duw nid yw y bywyd ganddo.