1 John 5:13 — Compare Translations

7 translations compared side by side

Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
Y petheu hyn a scriuenais atoch, yr ei a gredwch yn Enw Map Dyw, mal y gwypoch vot ychwy vywyt tragyvythawl, ac mal y credoch yn Enw Map Dyw.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
Y pethau hyn a ’sgrifenais attoch fel y gwypoch fod bywyd tragywyddol genych, attoch chwi y sy’n credu yn enw Mab Duw.
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
Hyn a ysgrifennais atoch er mwyn i chwi wybod bod gennych fywyd tragwyddol, atoch chwi sydd yn credu yn enw Mab Duw.
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Y pethau hyn a ysgrifennais atoch chwi, y rhai ydych yn credu yn enw Mab Duw; fel y gwypoch fod i chwi fywyd tragwyddol, ac fel y credoch yn enw Mab Duw.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Dw i wedi ysgrifennu hyn i gyd atoch chi sy'n credu ym Mab Duw er mwyn i chi wybod fod gynnoch chi fywyd tragwyddol.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Yr wyf yn ysgrifennu'r pethau hyn atoch chwi, y rhai sydd yn credu yn enw Mab Duw, er mwyn ichwi wybod bod gennych fywyd tragwyddol.
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
Y pethau hyn a ysgrifennais atoch, fel y gwypoch fod gennych fywyd tragwyddol, y rhai ydych yn credu yn enw Mab Duw.